Gruff Rhys
Página inicial > G > Gruff Rhys > Ôl Bys / Nodau Clust

Ôl Bys / Nodau Clust

Gruff Rhys


Ôl bys, nodau clust
Cyfri'n eiriau Iesu Grist
Mewnbynnaf fy mhen mewn i wal
Camera cryf sy'n fy nal

Ôl bys (x4)

Sanctaidd yw dy air
Cyfrinach yw dy gyfrinair
yn yr hydref poeth
Brawddeg hirach fasa'n ddoeth
Priflythyren ag ambell rif
I gryfhau grym dy rigwm cudd

Ôl bys, nodau clust
Cyfri'n eiriau Iesu Grist
Mewnbynnaf fy mhen mewn i wal
Drosodd a throsodd tan y wawr

Ôl bys (x4)

Yn gyfrinachol dan gysgod llaw
Byseddaf fotymau a'r trysor ddaw
Neu ambell ddiwrnod dim ond braw
Taw, taw, taw, taw

Ôl bys, nodau clust
Cyfri'n eiriau Iesu Grist
Mewnbynnaf fy mhen mewn i wal
Drosodd a throsodd tan y wawr

Byw ar y cyfryngau
Yn fyw ar y cyfryngau
Yn gaeth i'r cyfrwng
Y ffôn, y bwrlwm

Ôl bys, nodau clust
Cyfri'n eiriau Iesu Grist
Mewnbynnaf fy mhen mewn i wal
Camera cryf sy'n fy nal

Ôl bys (x8)

Encontrou algum erro na letra? Por favor, envie uma correção >

Compartilhe
esta música

Ouça estações relacionadas a Gruff Rhys no Vagalume.FM
ESTAÇÕES