Gruff Rhys
Página inicial > G > Gruff Rhys > Caerffosiaeth

Caerffosiaeth

Gruff Rhys


Adeiladau mileniwm
Mewn ffug alminiwm
Goruwch-ystafelloedd
Am hanner miliwn o bunnoedd
Tyfwn adenydd
Tra'n yfed
Ymennydd
Mewn tafarndai thema
A dim golwg o'r
Wyddfa
Dw i'n byw a bod
Dw i'n byw a bod
Arnofio yn y bae
Yn y baw a'r dod
Coffi ewynnol
Cyflog derbyniol
Argae uffernol
Sgidiau ffasiynol
Saeri Rhyddion
Yn rhedeg byrddion
Cyhoeddus, anweddus
Sefyllfa druenus

Dw i'n byw a bod
Dw i'n byw a bod
Arnofio yn y bae
Yn y baw a'r dod
Dw i'n rhan o'r atal genhedlaeth
Ymfudwn o amaeth
O gefn gwlad i Gaerffosiaeth
O gefn gwlad i Gaerffosiaeth
Dw i'n byw a bod, Dw i'n byw a bod
Arnofio yn y bae
Yn y baw a'r dod

Encontrou algum erro na letra? Por favor, envie uma correção >

Compartilhe
esta música

Ouça estações relacionadas a Gruff Rhys no Vagalume.FM
ESTAÇÕES